“The new curriculum will have creativity at its heart, and will set out a fundamental aim to develop well-rounded citizens who can participate fully in all aspects of life and work.”
"Bydd creadigrwydd wrth wraidd y cwricwlwm newydd, a bydd yn gosod y nod sylfaenol o ddatblygu dinasyddion cytbwys a all gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd a gwaith."
Hyd at Awst 2019, mae'r rhaglen wedi cefnogi 1,188 ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth, sy'n cyfateb i 79% o holl ysgolion Cymru. Mae wedi darparu dros 119,000 cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol, a mwy na 4,000 cyfle i athrawon elwa ar ddysgu proffesiynol drwy Gynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol a gweithgarwch Rhwydweithiau Rhanbarthol y Celfyddydau ac Addysg.
Mae Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi gweithio gyda 559 ysgol – dros draean o ysgolion Cymru – tra bod y Rhwydweithiau wedi cynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol i adeiladu partneriaethau cadarnhaol i gefnogi'r celfyddydau mewn addysg.
Bu o fudd aruthrol i Ddysgu creadigol drwy'r celfyddydau gydredeg ag agenda diwygio addysg Llywodraeth Cymru, ac ni allaf bwysleisio'n ddigonol y cyfraniad hanfodol y mae’r ddarpariaeth yn ei wneud yn ogystal ag un Cyngor Celfyddydau Cymru, i ddatblygu ein cwricwlwm newydd, a fydd ar gael yn Ionawr 2020 i'w gyflwyno o 2022 ymlaen.
Mae creadigrwydd yn cefnogi hyn drwy helpu pobl ifanc, o ba gefndir bynnag, i ddatblygu eu talentau a'u sgiliau.
Bydd creadigrwydd wrth wraidd y cwricwlwm newydd, a bydd yn gosod y nod sylfaenol o ddatblygu dinasyddion cytbwys a all gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd a gwaith. Mae creadigrwydd yn cefnogi hyn drwy helpu pobl ifanc, o ba gefndir bynnag, i ddatblygu eu talentau a'u sgiliau.
Mae'r gwelliannau a ddaeth yn sgil Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau eisoes yn amlwg mewn ysgolion sy'n cymryd rhan. Gellir mesur rhai cyflawniadau drwy bresenoldeb mewn ysgolion a sgorau profion ond mae athrawon hefyd yn dweud wrthym sut y maent yn gweld bod disgyblion yn tyfu mewn hyder, gan gymryd yr awenau mewn sefyllfaoedd grŵp, ac yn gwella eu prosesau penderfynu a datrys problemau sgiliau.
Felly mae Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau wedi bod yn elfen allweddol o'n dull o gefnogi ac ymgorffori creadigrwydd yn y cwricwlwm, gan helpu disgyblion yn eu datblygiad, ac athrawon sy'n gallu datblygu fel ‘athrawon creadigol’ wrth addysgu ar draws y cwricwlwm. Mae hyn yn darparu toreth o ymarfer cadarnhaol i gefnogi ein hagenda addysg yn y dyfodol.
— Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg